Bywyd yn amser Iesu.

Golwg ar fywyd cynnar Cristnogaeth.

Paratowyd gan: Panel Golygyddol y Porth

Golygwyd gan: Y Parchedig A.N.Other. B.A. B.D.

Audio Block
Double-click here to upload or link to a .mp3. Learn more
david-mclenachan-11kQ2vLtjE8-unsplash.jpg

Bywyd yn amser Iesu.

Ganwyd Iesu yn werinwr i deulu tlawd ym Methlehem ac yn ystod ei fywyd byr a’i farwolaeth dreisgar rhagorodd Iesu ar ei fywyd prin ar y ddaear wrth lanw eglwysi a chapeli dros y canrifoedd â addolwyr teyrngar a llyfrgelloedd a chartrefi â Beiblau a llyfrau yn llawn o’i weithredau a gobaith newydd achubol.

Iesu, mab Duw, heb ddisgynnydd, ond a neges drwy’r Efengylau sydd wedi treiddio cyfandiroedd a’i hanes o enau ei ddisgyblion. Ni ysgrifennwyd ei hanes yn syth, cymerodd ddegawdau cyn gwneud hynny er mwyn i genedlaethau o ddilynwyr wybod amdano fel Iesu, mab y Duw byw.

.Gwybyddwn am natur ei farwolaeth - ei groeshoelio am annog gwrthryfel - sy’n gyhuddiad rhyfedd i un a phregethodd gariad a maddeuant. Er hyn roedd ei farwoliaeth erchyll ond yn un o ddienyddiadau dirifedi’r cyfnod ym Mhalestina ym mhedwaredd ddegawd y ganrif gyntaf dan y Rhufeiniaid.


.