Y Porth

Mynediad i ddeffroad ysbrydol.

 

 Ffordd o fyw a byw i ddysgu.

Prosiect arloesol yw’r Porth sydd wedi’i aneli at pobl ifanc.

Er mai cynllun ar gyfer pobl ifanc rhwng 15eg a 35mlwyd oed ydyw, fe estynnir yr oed i blant o naw oed ymlaen. Fe’i aranwyd gan gynllun ‘Arloesi a Buddsoddi’ Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 2020.

Cenhadaeth Y Porth

Ein cenhadaeth yw ddyfnhau ein perthnas â Duw a'n gilydd, tyfu mewn cariad a gwybodaeth am Dduw a dysgu'r ffordd orau i gefnogi ein gilydd yn yr eglwys.

Gweledigaeth Y Porth

I helpu plant, ieuenctid ac oedolion i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.

Mae’r Porth yn brosiect gwbl arloesol a luniwyd wedi ymchwil i angenion eglwys Capel Seion a’r gymuned yn Nrefach, Llanelli. O ganlyniad, bum yn llwyddiannus i dderbyn cefnogaeth ariannol gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg oedd am i’w aelodau datblygu rhaglen oedd yn hyrwyddo’r Efengyl a gwasanaethu eu cymunedau.

Rhennir y Porth i ddwy brif adran sef, y Ffordd o Fyw neu weithgareddau er mwyn gwasanaethu’r gymuned a Byw i Ddysgu sef ffyrdd arloesol o hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl, cyrsiau a hyfforddiant. Mae’r ddwy adran wedi eu rhannu i dri phrif faes yr un a phob maes wedi eu rhannu i feysydd trafod. Daeth y pynciau ar gyfer y meysydd trafod i’r wyneb wedi holi ac asesu anghenion ein haelodau. Bydd nifer o eitemau yn codi o dro i dro ac fe fydd y tîm golygyddol yn paratoi deunydd ar ffurf erthyglau, podlediadau, lluniau a blogiau ar eu cyfer.

Er mwyn ein helpu i weld newid yn ein cymuned leol, mae canlyniadau ein cyfnod o holi yn cynnwys paratoi cyrsiau i helpu gyda chymorth priodas, iselder ysbryd, profedigaeth, buddsoddi yn natblygiad arweinwyr a gweithio gyda mudiadau gwirfoddol ac elusennau lleol. Mae’n haelodau yn cymryd rhan trwy gynnig eu sgiliau, eu hamser, eu rhoddion a'u gweddïau i gyfrani a chefnogi ein gweledigaeth.

Portffolio a Phrif Adrannau.

Rhennir cynllun y Porth i ddwy brif adran ddatblygu, sef y Ffordd o Fyw a Byw i Ddysgu.

Ffordd o Fyw

Gwasanaethu’r gymuned.

Fel eglwys rydym yn angerddol am y rhan rydym yn chwarae yn gwasanaethu’r gymdeithas. Rydym yn gyffrous am yr effaith mae hyn yn cael ar fywydau'r rhai sy’n ein hangen a’r effaith mae adnabod Iesu yn gwneud. Mae dod i wybod fwy amdano ac am safbwynt yr eglwys ar faterion cyfoes yn gymorth mawr i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.

Bydd yr adran yma yn estyn allan mewn ffordd fwy ymarferol. Byddwn yn canolbwyntio ein cymorth ymarferol allan o Hebron, Drefach, sydd hefyd yn ffocws i gais i’r Loteri er mwyn ei ddatblygu’n ganolfan amlbwrpas.

Byw i Ddysgu.

Arloesi a chyhoeddi’r Efengyl.

Bydd bod yn aelod o’r Porth yn ein galluogi i ddilyn erthyglau, blogiau a chyrsiau i ddyfnhau ein perthynas â Duw a thyfu ein bywyd Cristnogol. Mae’r cynnwys yn adlewyrchu materion cyfoes a’r heriau sydd i genedlaethau ifanc yr eglwys. Fe ddaw cynnwys yr adrannau yn sail i hyfforddiant sydd yn y pen draw yn cynnig cymwysterau i’r rhai sy’n am eu dilyn.

Bydd yr adran yma yn gymorth i wybod fwy am Iesu a datblygu cymhwyster personol.. Bydd yr eitemau i’w darllen eto yn ein cylchgrawn Pethau sy’n cael ei argraffu ddwy waith y flwyddyn.

 

Diolch.

Hoffwn ddiolch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am ymddiried ynom fel eglwys i gydweithio ar brosiect arloesol i hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl ac estyn allan a gwasanaethu’r gymuned. Bum yn llwyddiannus yn ein cais i ariannu swyddog i ddatblygu ffyrdd arloesol o gyfathrebu’r Efengyl ac adeiladu cynhwysedd y gymuned am gyfnod o bum mlynedd. Rhan o’r datblygu bydd prosiect y Porth ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r Undeb a phartneriaid eraill yn y dyfodol. Bydd y Porth yn tyfu o wythnos i wythnos wrth i ni baratoi deunydd sy’n berthnasol i’r eglwys heddiw ac esblygu’n naturiol dros y blynyddoedd.


Fel y dywedodd y ‘Cheshire Cat’ wrth Alice, “Os nad ydych chi'n gwybod i ble rydych chi'n mynd, bydd unrhyw ffordd yn eich arwain chi yno."