Capel Seion l Capel Seion

Y PORTH

Mynediad i ddeffroad ysbrydol.

Y PORTH

Mynediad i ddeffroad ysbrydol.

Beth bynnag ydyw, gall adnabod Iesu wneud byd o wahaniaeth.

Eglwys gyfoes pobl ifanc Capel Seion, Drefach

“Fi sy'n gwybod beth dw i wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.” Jeremiah 29:11.

Mae Iesu yw gael ym mhobman.

Meddyliwch am hafan, noddfa neu borth i ddealltwriaeth a chyfeillgarwch. Croeso i’r Porth.

Prosiect unigryw gyda neges ddwys. Mae’r prosiect hwn yn fwy na cynulliad syml, mae’n daith tuag at ddealltwriaeth, derbyniad a chwmnïaeth.

Mae Iesu yn ffrind sydd bob amser yno i chi. Mae’n eich deall, eich caru ac eich arwain. Dewch i gwrdd ag Iesu yn y Porth.

Bywyd yn ei holl gyflawnder

Ar eich pen eich hun.

Mewn cwmni.

Dewis Iesu yw i ni fyw ein bywyd yn ei holl gyflawnder.

Ein bwriad wrth ddatblygu ffyrdd arloesol i hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl a gwasanaethu’r gymuned.

Rhennir ein bwriad i’r ‘Ffordd o fyw’ a ‘Byw i ddysgu’ er mwyn clymu elfennau’r genhadaeth i ffyrdd ymarferol a digidol.

Siarad

Dyw siarad am ein teimladau ddim yn hawdd ar y gorau. Ond mae rhannu yn help mawr i leihau gofidion ac yn ddechreuad i wella. Ymddiriedwn yn ein ffrindiau.

Beth sy’n pwyso mwyaf arnom ni?

Oes ffrind yn barod i wrando?

Sut mae dechrau dweud ein stori?

Beth mae pobl yn mynd i feddwl?

Oes ffordd yn ôl o hyn i gyd?

“Rwy wedi drysu gan yr holl beth. Mae gan bawb farn ar fy mywyd. Mae’n anodd gwybod beth i wneud a sut mae mynd”.

“Oes gan Iesu yr ateb? Oes modd i mi gysylltu ag ef rhywffordd? Trueni nad yw â ‘direct line’. Byddai hwna’n rili grêt!”.

Dewis

Ein dewis ni yw adnabod Iesu fel ffrind.

Yn ein heglwys, credwn mai dyhead pennaf Iesu i bob un ohonom yw profi bywyd yn ei ffurf lawnaf a mwyaf toreithiog. Mae am inni gofleidio pob agwedd ar fywyd gyda llawenydd, pwrpas, a chariad.

Mae’r gwahoddiad hwn yn estyn i bobl ifanc fel chi eich hun, gan eich annog i fyw bywyd wedi’i drwytho â ffydd, caredigrwydd a thosturi. Mae Iesu’n eich gwahodd di i gerdded ochr yn ochr ag Ef fel ffrind, gan eich harwain trwy’r cyfnodau prysur a drwg, a goleuo eich lwybrau gyda’i ddysgeidiaeth a’i ras. Cofleidiwch y cyfeillgarwch hwn â Iesu, oherwydd wrth ei adnabod, fe gewch wir gyflawniad a bywyd sy'n lledaenu Ei gariad i'r byd o'ch cwmpas.

< Hyfforddiant Ysbrydol.

Llyfr ‘gallaf-wneud’ neu sut mae datblygu meddylfryd positif ac adeiladol i bobl ifanc.

Cliciwch ar y llun i gael mynediad i ‘ffliplyfr’.

Bywyd yn Iesu

Ffordd o fyw.

Byw i ddysgu.

Yr Eglwys Gyfoes.

Mae’r eglwys gyfoes yn herio’r drefn arferol. Er bod y dulliau o fynegi ei chariad at yr Arglwydd yn wahanol mae ei pherthynas â’n Ceidwad yr un mor bersonol ag erioed.

Cylchgrawn Strôb

YR EGLWYS GYFOES

Bydd y blogiau, erthyglau a phytiau eraill yn cael eu cyhoeddu pob gwanwyn a hydref yn Strôb - eich cylchgrawn ni.

Os oes gennych unrhyw beth i’w drafod neu’i rannu gyda’ch ffrindiau mae 'na gyfle i chi yn Strôb.

Sut allwn fod yn rhan o’ch bywyd chi?

Mae gan Strôb dipyn i ddweud. Ymunwch â ni a dywedwch eich stori. Byddwn yn falch i glywed gennych.

Tanysgrifiwch i’n blog wythnosol.

Cewch flog yn syth i’ch ffôn, cyfrifiadur, neu dabled.

Mae help ar gael.

Capel Seion.

Cwestiynau.

Cysylltu â Nerys.

Cefnogwyd cynllun Y Porth drwy nawdd ariannol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.