FFORDD YMLAEN

Ffordd o fyw

Byw i ddysgu

“Ymunwch â ni ar y daith oleuedig hon yn yr erthyglau isod, wrth inni ddarganfod y rhesymau pam mae’r eglwys Gristnogol yn parhau i fod yn ffynhonnell hanfodol o ysbrydoliaeth ac arweiniad”.

Nod yr adran Portffolio yw taflu goleuni ar arwyddocâd dwfn yr eglwys Gristnogol ym mywydau pobl ifanc wrth wynebu dryswch yr oes.

Ffordd Ymlaen yw ein cyfres o erthyglau dan y teitlau 'Ffordd o Fyw' a 'Byw i Ddysgu'.

Mae'r erthyglau hyn yn archwilio sut mae'r eglwys yn darparu golau arweiniol, meithrin ‘Ffordd o fyw’ sy’n meithrin ffydd, gwerthoedd, ac ymdeimlad o gymuned

Mae ‘Byw i ddysgu’ yn ymchwilio i sut mae’r eglwys yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf personol, datblygiad ysbrydol, a dealltwriaeth ddyfnach o bwrpas bywyd.

FFORDD O FYW

Golau arweiniol yw’r ‘Ffordd o fyw’ sy’n meithrin ffydd, gwerthoedd, ac ymdeimlad o gymuned wrth wynebu heriau bywyd sy’n dylanwadu arnom

  • Prif fwriad yr adran yma yw ymdrin â beth mae’r eglwys yn cynnig mewn byd sy’n brysur newid. Bydd eitemau ar ddigwyddiadau, ymgyrchoedd, hawliau, hiliaeth, bwlian, rhyw cyn priodas ac ati a bydd arbenigwyr yn cyfrannu ei sylwadau arnynt o dro i dro.

  • Bod yn berson hyderus a chytbwys. Y peth sylfaenol sydd yn ein gyrru a’n cadw ar y cledrau yw’r gallu i reoli ein bywydau. Mae rheolaeth yn ganlyniad i hyder yn ein gallu a hunan-barch.

  • ‘Gwneud daioni na ddiogwn’ Dyma arwyddair eglwys Capel Seion. Mae ‘gwneud gwahaniaeth’ yn adran lle y cyflwynwn wybodaeth ar ffurf erthyglau ar faterion lle mae gweithredoedd ein haelodau a’n ffrindiau wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl.. ‘Gwnewch y pethau bychain’.

BYW I DDYSGU

Mae ‘Byw i ddysgu’ yn arwain at dwf personol, datblygiad ysbrydol, dealltwriaeth ddyfnach o bwrpas bywyd a dod i adnabod Iesu fel ffrind.

  • Nid llyfr cyffredin mo'r Beibl. Mae'r geiriau ar ei dudalennau fel meddyginiaeth i'ch enaid. Mae ganddo'r pŵer i newid eich bywyd oherwydd bod bywyd yn y Gair!

    Cyflwyniad Capel Seion i hanes a bywyd Iesu hyd at yr eglwys heddiw sydd gennym yma. Mae’r cynnwys yn cynnig cip olwg yn unig er mwyn i chi gael blas i ddarllen mwy trwy naill ai wrth ddilyn cwrs neu hyfforddiant ar-lein wrth ymaelodi a’r Sedd Fawr.

  • Mae Iesu yng nghanol pob gweithgaredd. Mae’r eglwys wedi archwilio a holi’r gymuned ynghylch ei anghenion yn y byd modern ac yn ceisio ymateb i rain trwy ddarparu’r gwasanaeth mwyaf effeithiol i drigolion yr ardal. Yr arwyddair yw ‘gwneud beth i ni’n gallu a dod o hyd i’r ffordd o ddarparu’r anghenion sydd thu hwnt i’n gallu’.

  • Mae dysgu trwy brofiad yn sefyll am fyth. Dysgwch oddi wrth gamgymeriadau eraill - fedrwch chi ddim byw yn ddigon hir i’w gwneud i gyd eich hun. Un dydd ar y tro

    ‘Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd, ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau’ Diarhebion 12:28

  • Item description

Hyfforddiant Ysbrydol

Taith drawsnewidiol i hyfforddi meddylfryd, datblygiad personol a thwf ysbrydol.

Y cwestiynau yn yr adran yma oedd y rhai a ofynnwyd amlaf gan ieuenctid ein hastudiaeth.