Yr Eglwys Gyfoes.
Mae’n ffordd o fyw wedi troi wyneb i waered. Mae’r oes yn newid yn gyflym a dyw’r hen arferion ddim mor berthnasol bellach. Mae ffyrdd newydd yn gwthio drwyddo.
Nawr te’, Dyma beth rwyf am ddweud wrth eich arwain drwy’r rhesymeg; mae cyfathrebu a phobl ifanc wedi newid tu hwnt i bob synwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ceffyl a chart yr eglwys draddodiad wedi gwneud lle i Lamborghini technoleg fodern a’r llwyfannau cymdeithasol. Ond fel y ddoe, mae lle pwysig i’r ddau
Mae gennym y cyfle bellach i ystyried beth sy’n gweithio a beth allwn fabwysiadu ar gyfer ei defnyddio mewn gwead o’r hen a’r newydd. Mae’r ‘hen ffordd Gymreig o fyw’ mor bwysig ag y bu erioed ond efallai mai’r modd mae’r egwyddorion a’r arferion hyn yn cael ei cyflwyno sydd wedi newid.
Blynyddoedd yn ôl roedd y ceffyl a’r cart yn bwysig i deithio o un man i’r llall, Wedyn daeth y car a diflannodd y ceffyl a’r cart. Teithio yw’r bwriad o hyd; fe ddisodlwyd yr hen ffordd gan gerbyd llawer mwy addas i’r cyfnod newydd.
Ydyw’r enghraifft yma’n yn eich taro’n fel rhywbeth sy’n amlwg i nifer fawr o bethau heddiw? Mae cyfnod Cofid wedi achosi fwy o newidiadau ym myd cyfathrebu na’r chwildro diwydiannol. Rydym i gyd wedi ymateb iddo mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae rhan fwyaf o unigolion, teuluoedd, mudiadau, asiantaethau gwasanaethau a’r eglwys hefyd wedi’u heffeithio cymaint nes bod y newidiadau ddim yn gwneud patrymau rhagor os nad ydynt hyd yn oed yn addas mwyach..
-
Mae cyfoes yn golygu “bodoli, digwydd, neu fyw ar yr un pryd: perthyn i’r un cyfnod o amser.” Felly mae addoli cyfoes yn golygu addoliad sy’n briodol ac yn ystyrlon i bobl sy’n byw nawr, yn hytrach na phobl a oedd yn byw 100 mlynedd yn ôl neu a fydd yn byw 100 mlynedd yn y dyfodol. Mae hynny’n golygu bod pob cenhedlaeth ym mhob diwylliant yn wynebu cwestiwn addoli cyfoes.
Beth yw anghenion pobl yr 21ain ganrif heddiw a sut y gallwn fynd i'r afael â hwy trwy addoli. Dyna lle mae cerddoriaeth, fideos, drama, dawns, symudiad, lliw a chyfryngau yn dod i mewn. Dyma'r negeswyr sy'n cario'r neges.
Felly, mae eglwysi cyfoes yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â materion y mae pobl yn eu hwynebu heddiw a mynd i’r afael â nhw trwy gerddoriaeth, fideos, drama ac ati.
Felly addoli Duw trwy ei fodd ei hun yn hytrach nag addasu'r hen ddulliau traddodiadol.
-
Mae'r mudiad eglwysig cyfoes wedi cael effaith radical ar yr eglwys heddiw.. Mae nifer o’r eglwysi newydd sydd a chanran uchel o bobl ifanc yn rhai cyfoes ac mae llawer o eglwysi traddodiadol wedi ychwanegu gwasanaethau cyfoes. Mae cenhedlaeth gyfan o filflwyddiaid bellach yn rhoi cynnig ar eglwys ac yn canfod bod yr eglwys gyfoes yn diwallu eu hanghenion ac yn dod â nhw yn nes at Dduw.
-
Mae amrywiaeth drawiadol hefyd yn yr eglwys gyfoes. Yr hyn sy’n cysylltu grŵp mor amrywiol o ieuencyid yw’r weledigaeth gyfoes unigryw. Mae pobl yn ei chael hi'n eithaf deniadol i gael profiad o addoli mewn ffordd ddiwylliannol berthnasol. Mae gwrando ar gerddoriaeth a glywir ar y radio, canu caneuon mawl gyda band byw yn lle emynau gyda chôr, clywed negeseuon sy'n ymarferol ac yn berthnasol i'w bywydau yn bwysicach na chefndiroedd gwahanol. Mae gallu gwisgo'n hamddenol, cael gofal a gweinidogaeth o ansawdd uchel a gwylio fideos diddorol yn gwneud mwy o wahaniaeth na dim byd arall.
-
Mae'r eglwys gyfoes yn gymhleth ond mae rhai rhinweddau generig wedi'u nodi. Gellir dadlau mai dyma'r mudiad ysbrydol mwyaf arwyddocaol yn ein gwlad heddiw. Mae’r twf a’r dylanwad yn nifer yr eglwysi yn effeithio’n sylweddol ar ein tirwedd diwylliannol. Heb newid ei neges, mae'r eglwys wedi newid ei dulliau, ac mae'r canlyniad yn gadarnhaol iawn i bawb. Mae pob eglwys yn wahanol; rhaid cynllunio’n ofalus ac intigreddio’r hen a’r newyd, y traddodiadol a’r cyfoes ac addasu yn ô y galw.