Gwneud Gwahaniaeth.

 

Mae adnabod Iesu yn gwneud gwahaniaeth.

‘Gwneud daioni na ddiogwn’ Dyma arwyddair eglwys Capel Seion. Mae ‘gwneud gwahaniaeth’ yn adran lle y cyflwynwn wybodaeth ar ffurf erthyglau ar faterion lle mae gweithredoedd ein haelodau a’n ffrindiau wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl.. ‘Gwnewch y pethau bychain’.


Mae’r adran hon yn dechrau yn y dechrau. Gyda’r unigolyn. Gyda chi eich hun.

 

Pethau bach, pethau mawr.

 

Bod yn dda i chi eich hun.

Mae datblygu a gwella’r pethau bach yn ein bywydau yn arwain at ein gallu i reoli ein hun yn y byd mawr. Rydym i gyd yn gyfarwydd â Dewi Sant a’i awydd i ni wneud y pethau bychain.

Beth yw’r pethau bach hyn tybed. Wel ymunwch a ni yma ar y cam cyntaf i wneud gwahaniaeth.

 

Bod yn dda i eraill.

Rydym yn datblygu’r adran yma ar hyn o bryd. Byddwn yn cynnwys tystiolaethau o sut mae gwneud daioni ym mywydau pobl yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r pandemig wedi dangos sut mae gwneud hyd yn oed rhywbeth bach yn gallu newid bywyd pobl er gwell..

Iechyd Meddwl.

Gwneud Gwahaniaeth.

Mae gwneud gwahaniaeth yn y gyfres yma yn delio a phroblemau iechyd meddwl. Mae’r profiadau yma yn effeithio bron i un ym mhob pedwar ohonom ac er syndod yn achosi gofid mawr i bobl ifanc hefyd.

Yn y llyfryn yma cawn olwg ar brofedigaeth, unigrwydd, gorbryder ac iselder ysbryd i ddechrau ac rydym yn gobeithio ychwanegi ar y wybodaeth yn ein diweddariadau blynyddol.

Os oes unrhyw sylw gennych yna fe fyddwn yn falch eu derbyn er mwyn parhau i wella’r cynnwys a’u gwneud yn gymorth mawr i ddefnyddwyr ein safle.

Gallwn i gyd wneud gwahaniaeth...