Torri Calon
“Y mae'r Arglwydd yn agos at y rhai torcalonnus ac yn achub y rhai drylliedig mewn ysbryd.”
Salm 34:18
Beth ydych chi'n ei wneud â'ch calon wedi’i thorri? Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n sownd ac yn ofnus ac yn ansicr beth i’w wneud nesaf?
Mae'n ddiddorol ein bod eisiau trwsio pethau pan maen nhw'n torri - yn enwedig pan mae'n rhywbeth mor bersonol ac agos â'n calonnau. Ond rwy'n meddwl, weithiau, yn ein hawydd dwfn i drwsio'r cyfan sy'n torri, ein bod yn anghofio pa gyfle a allai ddod i gynyddu ein ffydd.
I fod yn onest, dwy ddim yn gwybod sut i wella calon sydd wedi’i dryllio ond efallai nad yw'n ymwneud â’i gwella o gwbl. Achos dwy ddim yn meddwl nad yw calonnau'n cael eu torri ar ddamwain. Rwy'n meddwl bod calonnau'n torri oherwydd mae Duw mor sicr bod angen i rywbeth sydd wedi'i ddal y tu mewn fynd allan fel bod rhywbeth cymaint gwell yn gallu arllwys i mewn.
Ond nid yw ychwaith yn rhywbeth y gallwn ei anwybyddu. Mae poen yn mynnu ein bod yn talu sylw iddo. Sut ydych chi'n dod â bywyd yn ôl i'ch calon sy’n ddifywyd?
Dewiswch yr hyn rydych chi'n ei wybod dros yr hyn rydych chi'n ei deimlo.
Gall cofio’r hyn y mae Duw yn ei ddweud yn yr Ysgrythur fod yn un o’r ffyrdd gorau o frwydro yn erbyn profiadau dirdynol a sut mae’n troi torcalon i fod mor ymrannol a phersonol.
Pan ddechreuwch ddweud, “Rwy’n teimlo’n unig…” neu, “Rwy’n teimlo’n isel fy ysbryd,” cofiwch fod teimladau’n fyrhoedlog ond nid yw’r gwirionedd yn newid. Nodwch pan fyddwch chi'n dechrau teimlo pwysau celwydd sy'n dweud rhywbeth fel, “Rydych chi'n angharadwy,” neu “Rydych chi'n mynd i farw ar eich pen eich hun,” a rhoi'r hyn rydych chi'n wybod yn ei le.
Pan fyddwch chi'n gweithio'n ddiwyd i gofio'r hyn y mae Duw yn ei ddweud, byddwch wedi'ch arfogi i sefyll yn erbyn y celwyddau y gall torcalon weithiau ollwng i fewn. Gall torcalon fod yn lle bregus i fod a thra mae'n dda bod yn agored i niwed pan fyddwch gyda’r Arglwydd, bydd yn rhaid gwisgo arfwisg Duw neu rydych hefyd yn mynd i fod yn agored i ymosodiadau eraill gan y gelyn. Mae’r gelyn yn ceisio chwarae ar ein gwendid ond gall Duw ddangos Ei allu trwy’r cyfan (2 Corinthiaid 12:9-10).
Felly peidiwch â mopio o gwmpas yn disgwyl amser i wella'ch calon. Nid yw amser yn gwella'ch calon, Iesu sy’n ei wneud drosoch.
Yng nghanol y tymor hwn o iachâd a chanfod pwrpas yn y boen rydych yn ei ddioddef, peidiwch ag anwybyddu pwysigrwydd sefyll ar Graig y Gwirionedd pan fyddwch chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysgwyd i'r craidd:
“Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei nerth. Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynlluniau diafol. ~ Effesiaid 6:10-11.
Gweddi
Annwyl Dduw, diolch i Ti, Dy fod wedi fy arfogi â Dy wirionedd i frwydro yn erbyn storm y teimladau sydd yn fy nghalon ddrylliog. Gwn mai Ti yw fy Iachawdwr a'm Cysurwr. Yn enw Iesu, amen.
Nerys E Burton: Swyddog Pobl Ifanc a Datblygu Cymunedol Capel Seion.